Cynllun iaith Gymraeg 2014

Closed 7 Jan 2015

Opened 8 Oct 2014

Overview

Mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn gwahodd y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ei Chynllun Iaith Gymraeg diwygiedig.

Rydym yn edrych ymlaen at glywed beth sydd gan bobl i’w ddweud a gwneud yn siŵr bod y cynllun diwygiedig yn parhau i adlewyrchu anghenion pawb y mae’n well ganddynt ddefnyddio’r Gymraeg.  

Ar ôl gweithredu ein Cynllun Iaith Gymraeg cyfredol am dair blynedd, er mwyn helpu i wneud yn siŵr ei fod yn dal yn gyfredol, yn berthnasol ac yn effeithiol, mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder wedi adolygu a diweddaru’r cynllun.

Gwnaed hyn yn unol â chanllawiau Comisiynydd y Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Bydd yn cael ei gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg ei gymeradwyo’n ffurfiol ar ôl y broses ymgynghori.

Mae dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad wedi cael ei ymestyn tan 7 Ionawr 2015 i ganiatáu rhagor o ymatebion.

Audiences

  • Businesses
  • Citizens

Interests

  • Equality & diversity