Canlyniad
Derbyniwyd cyfanswm o 63 o ymatebion. Roedd y rhain gan ynadon, cynghorwyr lleol, Aelodau Cynulliad Cymru ac Aelodau Seneddol, ac unigolion, sefydliadau a phwyllgorau lleol eraill.
Ar ôl ystyried yr ymatebion hyn, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu mynd ymlaen â’r cynnig i gau Llys Ynadon Castell Nedd.
Mae’r ddogfen hon yn cynnwys crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd, casgliadau a’r camau nesaf yn dilyn y penderfyniad.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig cau Llys Ynadon Castell Nedd a throsglwyddo’r gwaith i Lys Ynadon Abertawe, yn ogystal ag uno Mainc Castell Nedd a Phort Talbot gyda Mainc Abertawe. |
Mae’r safle mewn ardal sy’n cael ei ailddatblygu’n sylweddol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell Nedd a Phort Talbot ar ôl iddynt sicrhau arian Ewropeaidd a chymorth ariannol Llywodraeth Cymru i adfywio’r dref. Nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM wedi llwyddo i ganfod na sicrhau safle arall sy’n ymarferol a fforddiadwy o fewn ffiniau'r dref. |
Mae’r cynnig hwn yn ceisio sicrhau y defnyddir ein hadeiladau llys yn fwy effeithlon, a byddai cau’r llys yn arbed tua £220 mil y flwyddyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. |
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn defnyddwyr lleol, y farnwriaeth, yr ynadaeth, staff, ymarferwyr asiantaethau cyfiawnder troseddol a chynrychiolwyr etholedig i ddeall yn well yr effaith a geir y cynnig hwn ar y gymuned yng Nghastell Nedd a Phort Talbot. |
Share
Share on Twitter Share on Facebook