Cynnig ar ddyfodol Llysoedd Ynadon yng Ngwent:
Overview
Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig y dylid cau Llys Ynadon y Fenni a Llys Ynadon Caerffili. Oherwydd bod y ddau yng Ngwent, a gan mai dim ond un Ardal cyfiawnder Lleol sydd, nid oes angen ystyried uno meinciau.
Bwriad y cynnig hwn yw ceisio sicrhau y defnyddir ystâd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn fwy effeithiol gyda’r arbedion maint sy’n gysylltiedig wrth gau Llys Ynadon y Fenni a Llys Ynadon Caerffili. Byddai cau’r llysoedd hyn yn cynnig arbedion o oddeutu £80,000 y flwyddyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynglŷn â’r arbedion yn yr Asesiad o Effaith.
Byddai cau Llys Ynadon y Fenni a Llys Ynadon Caerffili, a symud y gwaith i Lys Ynadon Casnewydd a Llys Ynadon Cwmbrân yn golygu y byddai cyfleusterau gwell ar gael i ddefnyddwyr y llys ac i’r ynadon, wrth ganiatáu mynediad at adeilad newydd modern yng Nghasnewydd, sy’n addas ar gyfer y pwrpas ac sy’n cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010.
Audiences
- Citizens
- Youth workers
- Legal professionals
- Police
- Prosecutors
- Offenders
- Court & Tribunal staff
Interests
- Courts
Share
Share on Twitter Share on Facebook