Cynnig ar ddyfodol Llysoedd Ynadon yng Ngwent:

Closed 21 Jul 2014

Opened 9 Jun 2014

Overview

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig y dylid cau Llys Ynadon y Fenni a Llys Ynadon Caerffili.  Oherwydd bod y ddau yng Ngwent, a gan mai dim ond un Ardal cyfiawnder Lleol sydd, nid oes angen ystyried uno meinciau.

Bwriad y cynnig hwn yw ceisio sicrhau y defnyddir ystâd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn fwy effeithiol gyda’r arbedion maint sy’n gysylltiedig wrth gau Llys Ynadon y Fenni a Llys Ynadon Caerffili.  Byddai cau’r llysoedd hyn yn cynnig arbedion o oddeutu £80,000 y flwyddyn i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynglŷn â’r arbedion yn yr Asesiad o Effaith.

Byddai cau Llys Ynadon y Fenni a Llys Ynadon Caerffili, a symud y gwaith i Lys Ynadon Casnewydd a Llys Ynadon Cwmbrân yn golygu y byddai cyfleusterau gwell ar gael i ddefnyddwyr y llys ac i’r ynadon, wrth ganiatáu mynediad at adeilad newydd modern yng Nghasnewydd, sy’n addas ar gyfer y pwrpas ac sy’n cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010. 

Audiences

  • Citizens
  • Youth workers
  • Legal professionals
  • Police
  • Prosecutors
  • Offenders
  • Court & Tribunal staff

Interests

  • Courts