Cynllun Iaith Gymraeg (fersiwn Cymraeg) y Comisiwn Penodiadau Barnwrol

Closed 4 Dec 2015

Opened 8 Oct 2015

Results updated 20 May 2016

Mae’r papur hwn yn dilyn yr ymgynghoriad ar Gynllun Iaith Gymraeg arfaethedig y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Derbyniwyd 10 o ymatebion gan bobl sydd â diddordeb mewn penodiadau barnwrol gan gynnwys aelodau o’r farnwriaeth, ymgeiswyr posibl, cyrff cyfreithiol proffesiynol a grwpiau â diddordebau Cymreig.

Datblygwyd y cynllun gwirfoddol, arbenigol hwn i esbonio’n fanylach sut mae’r Comisiwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg wrth ddefnyddio dull annibynnol y Comisiwn o asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer penodiad barnwrol yng Nghymru. Mae’n esbonio hefyd sut y bydd ymgeiswyr yn gallu cyfathrebu â’r Comisiwn yn y Gymraeg neu’r Saesneg, yn unol â’u dewis personol, rhywbeth y byddwn ni’n ei hwyluso ar bob cyfle cyn belled â bod hynny’n addas yn yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.

Mae’r ddogfen ymateb i’r ymgynghoriad yn esbonio sut y gwnaeth yr ymatebion ddylanwadu ar y polisi. Ysgrifennodd Comisiynydd y Gymraeg at y Comisiwn ar 10 Mai 2016 yn cymeradwyo’r cynllun terfynol.

Files:

Overview

Mae’r papur hwn yn datgan ar gyfer yr ymgynghoriad Gynllun Iaith Gymraeg y Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Bwriedir yr ymgynghoriad ar gyfer y rheini sydd â diddordeb mewn penodiadau barnwrol, gan gynnwys y farnwriaeth, ymgeiswyr posibl, cyrff proffesiynol cyfreithiol a grwpiau â buddiannau Cymreig.

Mae’r cynllun gwirfoddol, arbenigol hwn wedi cael ei lunio i nodi’n well sut ydym yn trin y Gymraeg a’r Saesneg wrth ddefnyddio ein dull annibynnol o asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer penodiad barnwrol yng Nghymru. Mae hefyd yn esbonio sut ydym yn galluogi ymgeiswyr i gyfathrebu â ni drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn unol â’u dewis personol, rhywbeth y byddwn yn ei hwyluso gyda phob cyfle cyn belled ag y bo’n briodol dan yr amgylchiadau ac yn rhesymol ymarferol.

Audiences

  • Legal professionals
  • Judiciary
  • Potential candidates

Interests

  • Law
  • Judicial appointments
  • Equality & diversity