Comisiwn y Gyfraith: 12th Raglen Diwygio'r Gyfraith

Closed 31 Oct 2013

Opened 2 Jul 2013

Overview

Mae Comisiwn y Gyfraith yn ymgymryd â phrosiectau diwygio'r gyfraith gyda'r bwriad o wneud y gyfraith yn deg, syml, clir a chost-effeithiol.

Ar hyn o bryd rydym yn ymgynghori ar ba feysydd newydd ddylai cael eu trin yn ein rhaglen nesaf o ddiwygio'r gyfraith. I wneud hyn, rydym yn gofyn: yn lle mae'r gyfraith yn methu gweithio'n iawn?

Defnyddiwch yr holiadur hwn, os gwelwch yn dda i ddweud wrthym lle rydych yn credu bod problem arwyddocaol â'r gyfraith. Rydym eisiau gwybod beth rydych chi'n ei feddwl sy'n anghywir a pha broblemau ymarferol sy'n codi. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch i ni, os gwelwch yn dda, hyd yn oed os na allwch ateb pob cwestiwn. Os byddwn angen gwybod mwy, efallai byddwn yn cysylltu â chi.

Pa fathau o broblem a wnawn ni eu harchwilio?

Nid yw pob diwygiad o'r gyfraith yn briodol i Gomisiwn y Gyfraith.. Dywedwch wrthym am broblem dim ond os yw'n ymwneud â'r gyfraith, os gwelwch yn dda ac mae:

  • yn achosi  annhegwch sylweddol, neu
  • yn anffafriol yn eang neu'n  yn ddigymesur o gostus, neu
  • wedi ei hachosi gan gyfreithiau neu bolisïau sy'n gymhleth ac yn anodd eu deall neu
  • wedi ei hachosi gan gyfreithiau neu bolisïau sy'n groes i safonau modern

Dywedwch wrthym hefyd os credwch y byddai o fudd i ddod â nifer o statudau at ei gilydd (cydgrynhoi) sy'n delio â'r un maes o gyfraith o dan un Ddeddf newydd, os gwelwch yn dda. Gall hynny olygu bod y ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei hail-ddrafftio neu gall gynnwys ddiwygio rhywfaint o'r gyfraith waelodol. Ystyrir argymhellion ar gyfer cydgrynhoi nad ydynt yn golygu diwygio'r gyfraith yn sylweddol ar wahân i'r rhaglen diwygio'r gyfraith, ond rydym yn hapus i dderbyn awgrymiadau ar gyfer gwaith o'r fath fel rhan o'r ymgynghoriad hwn.

Ni fydd ein rhaglen o ddiwygio'r gyfraith yn cynnwys pynciau lle mae'r ystyriaethau'n cael eu siapio'n bennaf gan farn wleidyddol (er enghraifft, erthyliadau, mewnfudo, aelodaeth o'r UE, Deddf Hawliau Dynol, y gosb eithaf, dad-droseddoli’r defnydd o gyffuriau) na materion o bolisi sefydlog y Llywodraeth, fel trethu. Ni fyddwn yn ystyried problemau sydd ond yn berthnasol i brofiad arbennig unigolyn o'r gyfraith o'i chymharu â phroblem fwy cyffredinol. Nid ydym yn gweithio ar faterion sydd ond yn codi yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Pan ystyriwn brosiect posibl ar gyfer diwygio'r gyfraith, fe'n harweinir gan ein Protocol â'r Llywodraeth y bwriedir iddo sicrhau bod gan ein hargymhellion y cyfle posibl gorau o'u troi'n gyfreithiau. Rhai pwyntiau allweddol y byddwn yn edrych arnynt pan fyddwn yn ystyried prosiect yw:

  • Pa mor bwysig yw'r prosiect: i ba raddau y mae'r gyfraith yn anfoddhaol (e.e. yn annheg, yn gymhleth heb fod angen neu'n hen ffasiwn)? Beth yw'r manteision posibl o ddiwygio?
  • Ai'r Comisiwn annibynnol, anwleidyddol yw'r corff mwyaf addas i gynnal y prosiect?
  • A yw'r adnoddau sydd eu hangen (er enghraifft, profiad perthnasol digonol, arian wedi ei bennu'n ar gyfer y prosiect) ar gael i'n galluogi i ymgymryd â'r prosiect yn effeithiol?
  • A fyddai'r prosiect angen cynnwys Llywodraeth Cymru a/neu Gomisiynau'r Gyfraith yr Alban a Gogledd Iwerddon?

Byddwn hefyd yn asesu a yw'n debygol bydd cefnogaeth gan y Llywodraeth ar gyfer prosiect. Er mwyn i brosiect ffurfio rhan o'n rhaglen, mae’n rhaid i adran o'r Llywodraeth gadarnhau bod ganddi “fwriad difrifol” i fynd â diwygiad o'r gyfraith ymlaen yn y maes hwnnw. Os nad yw'r Llywodraeth yn ddifrifol yn bwriadu gweld diwygiad yn y gyfraith, nid oes posibilrwydd realistig y bydd unrhyw un o'r argymhellion rydym yn eu gwneud yn dod yn gyfraith.

Cyflwynwch eich awgrymiadau prosiect gan ddefnyddio holiadur yr arolwg isod. Fel arall, os byddai'n well gennych yr holiadur mewn fformat y gallwch ei hargraffu a'i llenwi, neu fel dogfen Word, y ddau ar gael ar ein gwefan.

Ymateb i awgrymiadau Comisiwn y Gyfraith ar gyfer prosiectau

Rydym yn awgrymu nifer o brosiectau posibl ar gyfer diwygio’r gyfraith a byddem yn croesawu eich safbwyntiau. Yn ôl ein profiad a’n trafodaethau â rhanddeiliaid yn ystod ein prosiectau, dyma’r meysydd a allai fod yn opsiynau posibl ar gyfer ein Rhaglen nesaf. Isod, ceir cyfres o ddogfennau sy’n nodi ein prosiectau arfaethedig.

Awgrymiadau yn unig yw’r rhain; rhowch wybod i ni a ydych chi’n cefnogi’r gwaith yn un neu ragor o’r meysydd hyn, ac os felly, pam. Os yw’n bosibl, nodwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych ynghylch problemau gyda’r gyfraith bresennol a manteision posibl diwygio.

Gwnewch hyn drwy ddefnyddio’r holiadur isod. Neu, os byddai’n well gennych gael yr holiadur mewn fformat y gallwch ei argraffu a’i lenwi, neu fel dogfen Word, mae’r ddau ddewis hwn ar gael ar ein gwefan.

Audiences

  • Businesses
  • Citizens
  • Claims management services
  • Coroners
  • Voluntary organisations
  • Local authorities
  • Youth workers
  • Coroners
  • Litigants
  • Young people
  • Charities
  • Landlords
  • Voluntary organisations
  • Bailiffs and Enforcement officers
  • Government departments
  • Legal professionals
  • Judiciary
  • Immigration removal centre staff
  • Young offender institute staff
  • Staff at prisons with mother and baby units
  • Police
  • Prosecutors
  • Offenders
  • Victims
  • Youth Offending Team workers
  • NHS data controllers
  • HSC data controllers
  • Court & Tribunal staff
  • Potential candidates
  • Legal professional bodies
  • Mental health professionals
  • Health professionals
  • Citizens
  • Voluntary organisations
  • Charities
  • Government departments
  • Legal professionals
  • Judiciary
  • Police and law enforcement professionals
  • Media

Interests

  • Compensation
  • Damages
  • Environment
  • European Union
  • Defamation
  • Courts
  • Property
  • Coroners
  • Public Bodies
  • Youth Justice
  • Claims management
  • Enforcement
  • Debt
  • Criminal justice
  • Law
  • Probate
  • International law
  • Data protection
  • Legal aid
  • Access to justice
  • Judicial appointments
  • Equality & diversity
  • Family justice
  • Mental health
  • Criminal justice
  • Freedom of speech
  • Media
  • Modern media
  • Social media and social networking