Ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith ar reoleiddio diogelwch tomennydd glo yng Nghymru

Closed 10 Sep 2021

Opened 9 Jun 2021

Overview

Ymgynghoriad cyhoeddus gan Gomisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr yw hon. Os ydych eisiau ymateb i'r ymgynghoriad yn Saesneg, pwyswch yma

Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud a thomenni glo yn darparu fframwaith effeithlon ar gyfer rheoli tomenni glo anweithredol yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith i werthuso deddfwriaeth bresennol ac ystyried opsiynau ar gyfer deddfwriaeth newydd i sicrhau system reoleiddio gadarn, integredig ac ystyriol o’r dyfodol sy’n mabwysiadu dull unffurf ar gyfer arolygiad, cynhaliaeth a chadw cofnodion trwy gydol cylch bywyd pob tomen glo o greu i adawiad i waith adfer.

Am fwy o wybodaeth am y prosiect, pwyswch yma

Rydym yn awgrymu darllen y papur ymgynghori cyn ymateb i'r ymgynghoriad. Mae yna grynodeb byrrach ar gael hefyd. 

Nid oes rhaid ateb pob cwestiwn os oes gennych ddiddordeb yn rhai rhannau o'r ymgynghoriad yn unig.

Am Comisiwn y Gyfraith: Mae Gomisiwn y Gyfraith yn gorff statudol, wedi'i chreu gan Ddeddf Comisiynau'r Gyfraith 1965 ("y Ddeddf 1965") ar gyfer hyrwyddo diwygiad y gyfraith. Mae'n gorff ymgynghorol anadrannol cyhoeddus wedi'i noddi gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae Comisiwn y Gyfraith yn annibynnol o'r Llywodraeth. Am fwy o wybodaeth am Gomisiwn y Gyfraith, pwyswch yma

Ymatebion i’r ymgynghoriad: Rydym yn anelu i wneud penderfyniadau tryloyw, ac i egluro sail y penderfyniadau hynny wrth ddod i gasgliad. Efallai y byddwn yn cyhoeddi neu ddatgelu’r wybodaeth yr ydych wedi ei ddarparu mewn ymateb i bapurau Comisiwn y Gyfraith, gan gynnwys gwybodaeth bersonol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cyhoeddi dyfyniad o’ch ymateb i gyhoeddiadau Comisiwn y Gyfraith, neu gyhoeddi’r ymateb ei hun. Yn ogystal â hynny, efallai bydd dyletswydd arnom i ddatgelu gwybodaeth, yn unol â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Fe fyddwn yn prosesu eich data personol yn unol â’r Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol y DU.

Rydym o’r farn bod ymatebion i ymgynghoriad yn fwyaf effeithlon pan ydyn ni’n gallu adrodd pwy a gyflwynodd ymateb, a beth oedd eu barn. Os ydych chi’n ystyried ei bod yn angenrheidiol cadw'r holl, neu gyfran o’r wybodaeth yr ydych am ei ddarparu yn gyfrinachol, ac felly ddim am iddo gael ei gyhoeddi na’i ddatgelu, cysylltwch â ni i fynegi hynny cyn gyrru’r ymateb os gwelwch yn dda. Gofynnwn ichi gadw’r wybodaeth gyfrinachol i’r isafswm, ei nodi yn glir, ac egluro pam yr ydych am i ni ei gadw’n gyfrinachol. Ni allwn warantu bod modd cadw’r cyfrinachedd hwn ym mhob achos, a ni fydd ymwadiad awtomatig a grëir gan eich system TG yn cael ei ystyried yn gyfrwymol ar Gomisiwn y Gyfraith.

Fel arall, efallai y byddwch yn dymuno i’ch ymateb fod yn ddienw. Golyga hyn y byddwn yn gallu cyfeirio at eich ymateb a chynnwys eich ymateb, heb ddatgelu mai gennych chi ddaeth yr ymateb.  Efallai y byddwch yn dymuno i ni gadw eich ymateb yn ddienw, er enghraifft os ydyw’n cynnwys gwybodaeth sensitif amdanoch chi neu’ch teulu, neu os ydych yn poeni am bobl eraill yn dod i wybod am y wybodaeth y darparwyd gennych.

Rydym yn rhestru pwy wnaeth ymateb i’n hymgynghoriad yn ein hadroddiadau. Os ydych yn rhoi ymateb cyfrinachol bydd eich enw yn ymddangos yn y rhestr. Os mae eich ymateb yn anhysbys byddwn ni ddim yn cynnwys eich enw yn y rhestr oni bai eich bod chi wedi rhoi caniatâd i ni i wneud.

Am wybodaeth bellach am sut rydym yn ymdrin â data bersonol, gweler ein neges preifatrwydd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni trwy e-bostio enquiries@lawcommission.gov.uk. Rydym yn croesawu ymholiadau yn y Gymraeg.  

Audiences

  • Businesses
  • Citizens
  • Voluntary organisations
  • Local authorities
  • Landlords
  • Voluntary organisations
  • Government departments
  • Legal professionals
  • Legal professional bodies
  • Public sector
  • UK politicians
  • Environmental NGOs
  • Planning authorities
  • Citizens
  • Voluntary organisations
  • Charities
  • Government departments
  • Legal professionals
  • Judiciary
  • Business & industry

Interests

  • Environment
  • Public Bodies
  • Law