Comisiwn y Gyfraith: 14eg Rhaglen o Ddiwygio'r Gyfraith

Closed 31 Jul 2021

Opened 24 Mar 2021

Overview

Annwyl ymgynghorai,

Diolch am eich diddordeb yng Nghomisiwn y Gyfraith ac ein 14eg Rhaglen o Ddiwygio’r Gyfraith. Fe fydd eich cyfraniad yn helpu llunio ein blaenoriaethau diwygio’r gyfraith am y tair i bedair blynedd nesaf.

Mae Comisiwn y Gyfraith yn diwygio’r gyfraith er mwyn sicrhau bod y gyfraith yn deg, modern, syml a chost effeithlon. Bwriad yr ymgynghoriad yma ydy i benderfynu pa feysydd o’r gyfraith sydd angen eu hadolygu yn y rhaglen nesaf. I wneud hyn, rydym ni’n gofyn i chi ddweud wrthym ni pa rannau o’r gyfraith sydd ddim yn gweithio’n effeithiol ar y funud.

Rydym ni’n awyddus i glywed eich syniadau diwygio chi. Rydym ni wedi awgrymu nifer o themâu a rhai syniadau penodol ar gyfer prosiectau unigol lle rydym ni’n awyddus i gynnig diwygiadau, ac felly croesawn eich sylwadau. Mae ein awgrymiadau thematig am ddiwygiad ar gael yma ac mae ein awgrymiadau penodol am ddiwygiad ar gael yma. Ond peidiwch â phoeni os nad ydy eich syniad diwygio chi yn ymddangos ar y rhestr na’n ffitio o fewn unrhyw thema benodol; mi rydym ni dal yn awyddus i glywed gennych chi gan nad ydym ni yn cyfyngu ein hunain i’r meysydd arfaethedig yn unig.

Nid ydy pob prosiect diwygio sy’n cael eu hawgrymu yn gallu cael eu cymryd ymhellach. Felly mae hi’n bwysig bod y sawl sy’n awgrymu syniadau yn cwblhau’r ffurflen hon yn fanwl. Fe fydd eich argymhelliad yn rhan allweddol wrth alw am ddiwygiad. Mae hyn yn hollbwysig oherwydd dim ond y prosiectau hynny sy’n derbyn cefnogaeth y Llywodraeth fydd yn cael eu cynnal. Wrth lunio eich awgrymiadau, fe fyddai’n ddefnyddiol i chi gyfeirio at ein meini prawf sy’n amlinellu’r math o waith mae’r Comisiwn yn debygol o’i wneud. Mae gwybodaeth am ein meini prawf ar gael yma

Nid ydy pob math o ddiwygio cyfreithiol yn addas i Gomisiwn y Gyfraith. Er enghraifft, ni allwn ddarparu datrysiadau lle bo’r broblem greiddiol yn ymwneud â dyraniad cyllid y llywodraeth. Rydym ni’n benderfynol anwleidyddol ac o ganlyniad ni fyddwn yn gweithio ar faterion sy’n wleidyddol eu natur, megis erthyliad neu y gosb eithaf, na chwaith faterion sydd yn gadarn o fewn cylch polisi’r Llywodraeth, megis treth. Nid ydym chwaith yn ystyried problemau sy’n ymwneud â phrofiad penodol unigolyn o’r gyfraith mewn cyferbyniad â phroblemau mwy cyffredinol gyda’r gyfraith. Ni allwn ychwaith weithio ar faterion sy’n codi yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn unig.

Nodir hefyd bod sawl prosiect o’r 13eg Rhaglen nad ydynt wedi dechrau eto, ac felly fe fyddant yn cael eu cario drosodd i’r 14eg Rhaglen. Mae manylion am brosiectau 13eg Rhaglen nad ydynt wedi eu cychwyn eto ar gael yma.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Fe fydd eich argymhelliad yn cael ei gofnodi’n awtomatig yn ein cronfa ddata 14eg Rhaglen ac fe fyddwch yn derbyn ebost awtomatig i gadarnhau derbyniad. Rydym ni’n sefydliad bychan, ac rydym ni fel rheol yn derbyn miloedd o ymatebion i ymgynghoriadau ar faterion diwygio posib. Yn anffodus, nid ydym ni’n gallu ymateb yn bersonol i bob argymhelliad, na darparu diweddariad unigol wrth ystyried y syniadau arfaethedig. Serch hynny, rydym yn gwerthfawrogi pob argymhelliad ac yn eu hystyried yn ofalus.

Mae’r holl awgrymiadau yn cael eu dadansoddi yn drylwyr wrth i ni ddechrau ar y broses o fireinio’r awgrymiadau wrth i’r Rhaglen newydd symud ymlaen i gael ei gymeradwyo gan yr Arglwydd Ganghellor.

Dyma amserlen fras:

  • Cyfnod ymgynghori: 24 Mawrth i 31 Gorffennaf 2021.
  • Dadansoddi’r ymatebion, ymchwilio ac ymgynghori gyda’r Llywodraeth: canol 2021 hyd at ddechrau 2022.
  • Yn ddibynol ar gymeradwyaeth yr Arglwydd Ganghellor, cyhoeddi’r Rhaglen derfynol yn hanner cyntaf 2022.

Fe fyddwn yn rhoi diweddariad ar gynnydd ar ein gwefan ac efallai, pe byddai angen, byddwn yn cysylltu â chi am wybodaeth bellach wrth i ni gydlynnu’r Rhaglen at ei gilydd.

Audiences

  • Anyone from any background

Interests

  • Law